Galwad ffôn am ddim. Byddwn ni’n eich paru chi gydag un o’n gwirfoddolwyr. Mae ein gwasanaeth yn hyblyg er mwyn gweddu i anghenion pob un sy’n cymryd rhan.
Lles trwy Wres yw ymgyrch genedlaethol Age Cymru sy'n ceisio codi ymwybyddiaeth y cyhoedd o beryglon sy'n gysylltiedig â thywydd oer, a sut gall hynny effeithio ar bobl hŷn.
Mae imiwneiddio yr un mor bwysig yn ddiweddarach mewn bywyd ag ydyw yn ystod plentyndod cynnar. Mae oedolion yn parhau i elwa o gael brechiadau rheolaidd, yn enwedig yn gynnar yn yr hydref.