Skip to content
Cyfrannwch

Hawliau Dynol

Geraldine photo.jpg

Dyma fi, gwerthfawrogi pobl hŷn.

Nid oes terfyn oedran.

Rydym yn cydnabod nad yw’r wefan gyfan ar gael yn Gymraeg ar hyn o bryd ond rydym yn gweithio'n galed i newid hyn yn fuan iawn. Wrth i ni heneiddio, mae gennym hawl o hyd i'r un hawliau dynol y cawsom ein geni gyda nhw. Weithiau gall y pwnc hawliau dynol swnio'n haniaethol neu'n academaidd, ond bob dydd rydyn ni'n profi sefyllfaoedd sy'n ymwneud â'n hawliau dynol.

Mae gwahaniaethu ar sail oedran yn golygu bod rhywun yn eich trin yn annheg oherwydd eich oedran. Mae gwahaniaethu ar sail oedran hefyd yn cyfeirio at y ffordd y mae pobl hŷn yn cael eu cynrychioli yn y cyfryngau, a all gael effaith ehangach ar agweddau'r cyhoedd.

Os oes rhywun yn gwahaniaethu yn eich erbyn chi oherwydd eich oedran, mae’n bosib bydd y sefyllfa’n effeithio ar eich hyder, eich siawns am swydd newydd, eich sefyllfa ariannol a’ch ansawdd bywyd.
Mae'n bwysig bod gwahaniaethu ar sail oedran yn cael ei herio er mwyn sicrhau nad oes neb ar eu colled oherwydd eu hoedran a dyna pam rydym yn falch o fod yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar ein hymgyrch Dyma fi, gwerthfawrogi pobl hŷn.
________________________________________

Sut mae pobl hŷn yn cael eu gwahaniaethu?

Weithiau, mae’n amlwg bod rhywun yn gwahaniaethu yn eich erbyn oherwydd eich oedran. Ond mewn rhai sefyllfaoedd, efallai nad yw hi’n amlwg bod rhywun yn gwahaniaethu yn eich erbyn.

Er bod gwahaniaethu ar sail oedran yn aml yn cael ei ystyried fel rhywbeth sy’n cael ei drafod yn y gweithle, efallai y byddwch chi'n wynebu gwahaniaethu pan fyddwch chi’n siopa, yn y feddygfa, neu hyd yn oed wrth archebu cynhyrchion a gwasanaethau dros y ffôn.

Dyma enghreifftiau o wahaniaethu ar sail oedran:
• colli swydd oherwydd eich oedran
• cael eich gwrthod pan rydych chi’n gwneud cais am gredyd di-log, cerdyn credyd newydd, yswiriant car neu yswiriant teithio oherwydd eich oedran
• derbyn gwasanaeth o ansawdd is mewn siop neu fwyty oherwydd agwedd y sefydliad tuag at bobl hŷn
• mae’r meddyg yn gwrthod eich cyfeirio at ymgynghorydd oherwydd eich bod chi'n 'rhy hen'
• mae clwb neu gymdeithas fasnach yn gwrthod rhoi aelodaeth i chi oherwydd eich oedran.

Adnoddau hawliau
• Datblygwyd ein ffilm fer animeiddiedig ‘Don't Get Me Started’ gan yr artistiaid Jon Ratigan ac Emma Prentice. Mae cyfweliadau gyda chwech o bobl hŷn ledled Cymru wedi cael eu hanimeiddio, ac rydyn ni’n gwylio’r unigolion yn ystyried materion sy'n bwysig iddynt.
• Rydyn ni wedi datblygu pecyn cymorth eiriolaeth hawliau dynol ar gyfer pobl hŷn ac unrhyw un sy'n eirioli ar ran pobl hŷn i gefnogi trafodaethau gwybodus ynghylch hawliau dynol mewn sgyrsiau am iechyd, gofal cymdeithasol a thai. Gallwch chi lawrlwytho copi Saesneg, neu gopi Cymraeg.
• Llyfrynnau wedi'u cyd-greu gan Ofal Cymdeithasol Cymru a Llywodraeth Cymru, Sicrhau bod hawliau’n gweithio i bobl hŷn sydd ar gael yn y Gymraeg, Saesneg, ac Iaith Arwyddion Prydain. Mae yna ganllaw ar ddeall eich hawliau i gael gofal a chymorth fel person hŷn, sy’n cynnwys astudiaethau achos.

Dywedodd ein Prif Weithredwr Victoria Lloyd, "Mewn llawer o feysydd yn ein Cymdeithas, fel iechyd a gofal cymdeithasol ac wrth lunio ein cymunedau lleol, yn aml mae hawliau pobl hŷn yn cael eu hanwybyddu, ac nid yw llawer o bobl hŷn yn ymwybodol o'u hawliau.

Rydym yn falch o fod yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i godi ymwybyddiaeth o hawliau ymhlith pobl hŷn a'u helpu i ddeall ble a phryd y gellir eu defnyddio. Mae gan bob un ohonom yr hawl i fyw gydag urddas, i wneud ein dewisiadau ein hunain, ac i ddisgwyl bod pobl eraill yn parchu ein barn."
Gallwch ddarganfod rhagor o wybodaeth am hawliau dynol ar y dudalen hon: Hawliau Dynol - Age Cymru.

Os hoffech chi siarad â rhywun yn uniongyrchol am eich hawliau dynol, gallwch ffonio ein llinell gyngor. Gallwch siarad yn Gymraeg neu Saesneg, ffoniwch 0300 303 44 98 yn ôl y gyfradd leol (ar agor rhwng 9:00am a 4:00pm, dydd Llun i ddydd Gwener). E-bostiwch [email protected].

 

Pecyn Cymorth Hawliau Dynol

 

Last updated: Mai 16 2025

Dewch yn rhan o’n stori

Cofrestrwch heddiw

Back to top

OSZAR »