Skip to content
Cyfrannwch

Taliad Tanwydd Gaeaf a’r Cynllun Gostyngiad Cartrefi Cynnes

Taliadau blynyddol yw’r Taliadau Tanwydd Gaeaf.  Nod y taliadau yw helpu pobl gyda chostau gwresogi yn ystod y misoedd oer. 
Pan mae’r tywydd yn oer iawn am gyfnod hir, mae’n bosib y byddwch chi’n gymwys am Daliad Tywydd Oer.
Taliad blynyddol yw’r Cynllun Gostyngiad Cartrefi Cynnes.  Nod y cynllun yw helpu pobl gyda chostau ynni yn ystod y gaeaf.  Mae’r cynllun yn helpu pobl sy’n byw ar incwm isel neu sy’n dibynnu ar eu pensiwn.
Rydyn ni hefyd yn darparu gwybodaeth ddefnyddiol am gostau byw.

Taliadau Tanwydd Gaeaf

Beth yw’r Taliadau Tanwydd Gaeaf?

Taliadau blynyddol di-dreth yw’r Taliadau Tanwydd Gaeaf.  Yn ystod blwyddyn ariannol 2025-26, bydd y Taliadau Tanwydd Gaeaf ar gael i aelwydydd sy’n gartref i berson hŷn.  Mae’n rhaid bod y person hŷn wedi cael ei eni cyn 21 Medi 1959, ac yn derbyn budd-dal cymwys sy’n dibynnu ar brawf modd.  Dyma’r budd-daliadau cymwys:

  • Credyd Pensiwn
  • Credyd Cynhwysol
  • Cymhorthdal Incwm
  • Lwfans Ceisio Gwaith sy’n seiliedig ar incwm
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth seiliedig ar incwm

Nod y Taliadau Tanwydd Gaeaf yw helpu pobl gyda chostau gwresogi yn ystod y gaeaf.

Ydw i’n gymwys?

Os ydych chi’n hŷn nag oedran Pensiwn y Wladwriaeth, ac rydych chi’n derbyn budd-dal cymhwyso, mae’n bosib cewch chi £200 er mwyn talu eich biliau.  Os ydych chi’n hŷn nag 80 oed, mae’n bosib cewch chi £300 er mwyn talu eich biliau dros y gaeaf eleni.

Yr unigolyn sy’n hawlio’r budd-dal sy’n derbyn y taliadau; mae’r taliadau ar gyfer yr aelwyd.

Sut i hawlio

Byddwch chi’n derbyn Taliadau Tanwydd Gaeaf os ydych chi’n derbyn Credyd Pensiwn neu fudd-daliadau cymhwyso eraill fel Credyd Cynhwysol.  Byddwch chi’n derbyn llythyr a fydd yn egluro faint byddwch chi’n ei dderbyn, a phryd byddwch chi’n ei dderbyn (yn ystod blwyddyn ariannol 2025-26 byddwch chi’n derbyn y taliad rhwng mis Tachwedd 2025 a mis Ionawr 2026).

Ffoniwch 0800 731 0160 i siarad â llinell gymorth y Taliadau Tanwydd Gaeaf.


Y Cynllun Gostyngiad Cartrefi Cynnes

Taliad untro yw’r Gostyngiad Cartrefi Cynnes.  Mae’r taliad o £150 yn cefnogi pobl gyda chostau ynni dros y gaeaf.  Mae’r cynllun yn helpu pobl sy’n byw ar incwm isel neu sy’n dibynnu ar eu pensiwn.

Nid yw’r Gostyngiad Cartrefi Cynnes yn effeithio ar eich hawl i dderbyn y Taliadau Tanwydd Gaeaf neu’r Taliad Tywydd Oer.

Nid oes angen i chi wneud cais am Ostyngiad Cartrefi Cynnes os ydy eich cyflenwr trydan yn rhan o’r cynllun.  Byddwch chi’n derbyn y taliad os oes gennych chi gostau ynni uchel, ac os ydych chi neu eich partner yn derbyn Credyd Gwarant (rhan o Gredyd Pensiwn) neu fudd-dal gymhwyso arall.

Ni fyddwch chi’n derbyn taliad yn uniongyrchol – bydd credyd yn cael ei ychwanegu at eich cyfrif trydan.  Bydd hyn yn digwydd rhwng mis Hydref a mis Mawrth (mae’n bosib bydd y gostyngiad yn cael ei ychwanegu at eich bil nwy os ydych chi’n gwsmer tanwydd dwbl – hynny yw, mae gennych chi gynllun cyfunol ar gyfer eich cyflenwad nwy a thrydan gan yr un cyflenwr.

Os ydych chi’n defnyddio mesurydd rhagdalu, byddwch chi’n derbyn taleb gyda swm atodol.

Mae sawl cyflenwr yn cynnig cymorth anuniongyrchol i’w cwsmeriaid fel rhan o Gynllun Gostyngiad Cartrefi Cynnes.  Mae’n bosib y byddwn nhw’n medru darparu cyngor am ddefnyddio llai o ynni a sut i leihau dyledion sy’n gysylltiedig ag egni.

Y Cynllun Gostyngiad Cartrefi Cynnes – ydw i’n gymwys?

Mae’n rhaid bod gennych chi, neu eich partner, gyfrif gyda chyflenwr trydan sy’n cymryd rhan yn y cynllun er mwyn bod yn gymwys ar gyfer y Gostyngiad Cartrefi Cynnes.  Mae’n rhaid bod un ohonoch chi’n hawlio un o’r budd-daliadau isod:

  • Credyd Gwarant (rhan o Gredyd Pensiwn)
  • Budd-dal cymhwysol gwahanol (os oes gennych chi gostau ynni uchel).

Mae’r budd-daliadau cynhwysol yn cynnwys Credyd Cynilion (rhan o Gredyd Pension), Credyd Cynhwysol a Budd-dal Tai.

Os ydych chi’n hawlio budd-dal cymhwysol, bydd y llywodraeth yn asesu eich costau ynni gan ystyried eich cartref (maint, oed, math, ac yn y blaen).  Bydd hyn yn digwydd ar ddiwrnod penodol a elwir yn ‘ddyddiad cymhwysol’.

Ewch i wefan GOV.UK er mwyn gwirio eich cymhwyster ar gyfer y Gostyngiad Cartrefi Cynnes

Os ydych chi’n byw mewn eiddo sy’n effeithlon o ran ynni, mae’n bosib na fyddwch chi’n gymwys ar gyfer y Gostyngiad Cartrefi Cynnes, hyd yn oed os ydych chi’n hawlio budd-dal cymhwysol (nid yw hyn yn berthnasol i bobl sy’n derbyn Credyd Gwarant, rhan o Gredyd Pensiwn).

Os ydych chi’n teimlo bod eich asesiad costau ynni’n anghywir, cysylltwch â llinell gymorth y Gostyngiad Cartrefi Cynnes ar 0800 030 9322 er mwyn herio’r penderfyniad.

Sut i hawlio’r Gostyngiad Cartrefi Cynnes

Bydd cartrefi cymwys yn derbyn y Gostyngiad Cartrefi Cynnes.  Os ydych chi’n gymwys, byddwch chi’n derbyn llythyr rhwng mis Tachwedd a mis Ionawr a fydd yn egluro beth yw’r gostyngiad.  Yna, bydd eich cyflenwr trydan yn ychwanegu’r gostyngiad at eich bil erbyn diwedd mis Mawrth.

Yn flaenorol, roedd yn rhaid i chi hawlio’r arian wrth eich cyflenwr os nad oeddech chi’n hawlio Credyd Gwarant (rhan o Gredyd Pensiwn).

Os ydych chi’n gymwys, a dydych chi ddim wedi derbyn llythyr erbyn canol mis Ionawr, cysylltwch â llinell gymorth y Gostyngiad Cartrefi Cynnes ar 0800 030 9322.

Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth ffoniwch Gyngor Age Cymru ar 0300 303 44 98

 

Last updated: Meh 10 2025

Dewch yn rhan o’n stori

Cofrestrwch heddiw

Back to top

OSZAR »