Galwad ffôn am ddim. Byddwn ni’n eich paru chi gydag un o’n gwirfoddolwyr. Mae ein gwasanaeth yn hyblyg er mwyn gweddu i anghenion pob un sy’n cymryd rhan.
Mae'r nifer ohonom sy'n priodi yn hwyrach mewn bywyd yn cynyddu ac mae'r mwyafrif o'r rhain sydd yn ailbriodi eisoes wedi profi ysgariad neu brofedigaeth. Gwyddom y gall fod yn gyfnod cyffrous ac emosiynol, ond mae rhai materion ymarferol i'w hystyried wrth ailbriodi neu ffurfio partneriaeth sifil newydd.
Rhagor o wybodaeth defnyddiol os ydych chi'n berson hŷn sy'n cael eich cam-drin neu eich esgeuluso, neu os ydych yn pryderu am berson hŷn. Mae hyn yn cynnwys manylion am ddulliau diogelu - gan gynnwys deddfwriaeth berthnasol, canllawiau statudol a pholisïau - ynghyd â chamau ymarferol y gellir eu cymryd i atal camdriniaeth.
Mae llawer o faterion yn ddiweddarach mewn bywyd yn effeithio ar bobl sydd yn heterorywiol, lesbiaidd, hoyw, deurywiol neu draws, ond efallai y bydd angen ystyriaeth benodol am rai materion. Mae'r cyd-destun cyfreithiol wedi newid mewn perthynas â phobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thraws (LHDT), a hynny'n bennaf mewn ffordd gadarnhaol. Mae gennych chi hawliau sy'n cael eu cydnabod a'u hyrwyddo. Gall gwybod am yr hawliau hyn eich helpu i ddeall systemau a all deimlo'n gymhleth neu'n ddryslyd.
Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth ffoniwch Gyngor Age Cymru ar 0300 303 44 98